P-05-1089 Dylai Cymru arwain ar ddod â chyflogau’r GIG nôl i fod yn unol â chostau chwyddiant dros y 10 mlynedd diwethaf
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Dyfan Roberts, ar ôl casglu cyfanswm o 190 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Ers mis Ebrill 2010, mae cyflogau rhai aelodau o staff y GIG wedi gostwng cymaint â 20.51% yn unol â chwyddiant.
Mae’n bryd i Lywodraeth Cymru drafod taro bargen newydd ar gyflogau a fydd yn digwydd yn 2021 a lleihau’n sylweddol neu ddileu’r golled y mae gweithwyr rheng flaen wedi’i dioddef dros y 10 mlynedd diwethaf.
Y tro diwethaf i ni gael codiad cyflog, roedd yn efelychiad o fargen San Steffan! Mae’n bryd i Lywodraeth Cymru gymryd y camau cyntaf a rhoi’r fargen y mae’r GIG yn ei haeddu.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Gorllewin Clwyd
· Gogledd Cymru